Tarian sydd yn darlunio Selnod Solomon a'r haul yn codi uwchben Mynyddoedd Atlas, a gynhelir gan ddau lew yw arfbais Moroco.[1] Pentagram gwyrdd yw Selnod Solomon, a ymddangosir hefyd ar faner Moroco. Amgylchynir y darian gan fordor aur addurniedig, ac ar ei phen mae coron y deyrnas. O dan y darian mae sgrôl yn dwyn adnod o'r Corân.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search